Polisi Preifatrwydd
English |
Deutsch |
Français |
漢語 |
Español |
Italiano |
Русский |
Mae Virtual Surveys yn sylweddoli pa mor bwysig yw'ch preifatrwydd, a sicrhawn fod diogelu eich preifatrwydd yn flaenoriaeth gennym. Mae egwyddorion allweddol ymchwil marchnad broffesiynol wedi eu seilio ar onestrwydd, cyfrinachedd a thryloywed. Rydym felly yn ymrwymedig i amddiffyn eich preifatrwydd a´r wybodaeth y byddwch yn ei darparu trwy gydol eich amser ar y wefan a thra byddwch yn llenwi ein harolygon a allai fod yn cael eu llywyddu ar ein rhan ar safleoedd gwe eraill.
Beth yw pwrpas yr arolygon?
Eu pwrpas yw gweld beth yw barn pobl am bethau. Ni fyddant yn ceisio gwerthu na hyrwyddo. Ni fyddwn yn eich camarwain ynghylch natur yr arolwg na´r defnydd a wneir o´r darganfyddiadau.
Pam dewis fy nghyfweld i
Rydym naill ai wedi derbyn eich enw gan ein cleientiaid neu wedi'ch dewis ar hap fel person sy´n digwydd cyfateb i´r meini prawf o bobl y dymunwn eu cyfweld. Er enghraifft, byddwn yn cynnal arolygon ar wefannau yn aml ac, fel arfer, yn dangos arolwg i bob 5-10 person fydd yn ymweld â´r safleoedd.
Pa wybodaeth fyddwch chi´n ei chasglu´n awtomatig ar eich safle?
Bydd ein gweinyddion gwe yn cofnodi pa dudalennau y byddwch yn ymweld â hwy yn ogystal â chyfeiriad IP pob ymwelydd. Ar ffurf cyfanred yn unig y byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon, a hynny er mwyn diffinio pethau megis pa dudalennau sy´n boblogaidd, ffyrdd o gyrraedd ein safle, ayb. Dim ond ar gyfer arolygu mewnol ac er mwyn gwella cynnwys ein gwefan y defnyddir y wybodaeth hon. Daliwch sylw, ni fyddwn yn arddel eich cyfeiriad e-bost fel rhan o'r broses hon. Weithiau, byddwn hefyd yn monitro pa fath o borwr sydd gennych, maint eich sgrin a gweld a fyddwch yn defnyddio briwsion. Byddwn yn defnyddio´r wybodaeth er mwyn ein cynorthwyo i bennu pam fod rhai pobl yn cael trafferthion â'u gwefannau ac eraill ddim.
Fyddwch chi´n defnyddio "bygiau gwe"?
Yr unig bryd y defnyddiwn y rhain yw pan fyddwn yn monitro effeithiolrwydd ein hysbysebu ar-lein. Yn y fan yma, yr unig reswm y byddwn yn eu defnyddio yw er mwyn cael gwybod pa wefannau sy´n cynhyrchu arolygon dibynadwy yn y modd mwyaf effeithiol. Ni fyddwn, ar unrhyw gyfrif, yn cysylltu'r "byg gwe" â´ch data personol. Edrychwch ar ein taflenni ar Friwsion a Bygiau Gwe am fwy o wybodaeth.
Beth wnewch chi â gwybodaeth bersonol y byddwch yn ei chasglu ar eich safle ac yn ystod eich arolygon?
Yn ystod arolygon gwe byddwn yn aml yn gofyn am wybodaeth bersonol megis oedran, rhyw, galwedigaeth, ayb. Dim ond ar gyfer pwrpasau dadansoddi y byddwn yn casglu´r wybodaeth hon, a defnyddir hi ar sail gyfanredol er mwyn pennu pa grwpiau fydd yn meddwl am beth. Nid yw´n eich dynodi chi´n bersonol. Caiff yr atebion a roddwch eu trin yn gyfrinachol oni fyddwch chi´n benodol yn cydsynio´n wahanol.
Sut cawsoch chi fy nghyfeiriad e-bost?
Gyda rhai arolygon byddwn yn anfon e-bost at bobl yn uniongyrchol er mwyn iddynt eu llenwi. Ni fyddwn yn anfon e-bost at bobl oni fyddant wedi rhoi eu cyfeiriadau i'n cleientiaid ac wedi cytuno i gael eu cyfweld ar gyfer dibenion ymchwil y farchnad. Ni fyddwn yn anfon "spam" nac yn anfon e-byst at bobl nad ydym wedi cael eu caniatâd.
Os byddwch yn derbyn e-bost gan Virtual Surveys ac yn tybio nad ydych wedi rhoi eich caniatâd neu'n dymuno tynnu eich enw oddi ar y gronfa ddata, rhowch wybod i ni a byddwn yn gofyn i´r sawl sydd wedi darparu´r rhestr dynnu´ch enw oddi arni.
Pam fyddwch chi´n gofyn am gyfeiriad e-bost ar arolygon gwefannau?
Pan fyddwn yn gwneud archwiliadau ar ymwelwyr gwefannau, gofynnwn yn aml a fyddai gennych ddiddordeb rhoi eich cyfeiriad e-bost i ni. Fodd bynnag, ni fyddwn yn gofyn hyn i chi oni bai eich bod yn fodlon i´r wybodaeth a roesoch yn ogystal â´r cyfeiriad ei hun gael ei basio mlaen i´r cleient sy´n noddi´r ymchwil. Yn yr achos hwn, gallai Virtual Key neu´r noddwr gysylltu â chi eto ynghylch y prosiect hwn neu brosiectau eraill. Ni fydd Virtual Surveys na´r cleient sy´n noddi ar unrhyw gyfrif yn defnyddio´r cyfeiriad e-bost ar gyfer unrhyw bwrpas arall ac eithrio ymchwil dilys. Yn ogystal â hyn, ni chaiff ei basio at drydydd parti.
Os byddwch, ar ôl cyflawni arolwg o´r fath, yn penderfynu eich bod eisiau i'ch cyfeiriad e-bost gael ei dynnu oddi ar y gronfa ddata hon, gallwch anfon e-bost at info@virtualsurveys.com, gan nodi´n glir o ba safle y cododd yr arolwg ac ar ba ddiwrnod y´i cwblhawyd a sicrhawn y bydd y cyfeiriad e-bost yn cael ei ddileu.
Fydd modd i mi ddileu data fy arolwg?
Fel gyda phob math o ymchwil y farchnad, bydd eich cydweithrediad yn wirfoddol bob amser. Mae gennych yr hawl i ofyn i ni ddinistrio neu ddileu naill ai rhan o gofnod eich cyfweliad neu´r cyfweliad yn ei gyfanrwydd ar unrhyw adeg. Pan fydd hynny´n rhesymol ac yn ymarferol, byddwn yn gwneud hynny.
Plant
Byddwn yn gwneud ein gorau i beidio â chyfweld plant dan 15 oed heb yn gyntaf gael caniatâd eu rhieni cyn cychwyn yr arolwg.
Beth am friwsion a sut byddwch yn eu defnyddio?
Bydd Virtual Surveys yn aml yn defnyddio "Briwsion" er mwyn darparu gwell gwasanaeth i chi. Un o´r prif resymau y byddwn yn eu defnyddio yw er mwyn sicrhau na fyddwch yn cael eich poeni gan arolygon fwy nag unwaith.
Darn bychan o wybodaeth yw "briwsionyn" sydd, trwy gyfrwng y porwr gwe ar eich cyfeiriadur personol, yn cael ei storio gan wefan ac yn gallu cael ei adfer yn nes ymlaen. Ni all unrhyw wefan ddarllen briwsion ac eithrio´r wefan a´i gosododd. Bydd yr holl friwsion a ddefnyddiwn ni yn terfynu ar ôl cyfnod byr o amser - ar ôl dyddiau´n unig yn aml iawn. Ni fyddant yn cynnwys gwybodaeth a fydd yn galluogi unrhyw un i gysylltu â chi trwy gyfrwng ffôn, e-bost neu fodd arall.
Gallwch ffurfweddu eich porwr i roi gwybod i chi pan roddir briwsion ar eich cyfrifiadur. Gallwch hefyd eu diffodd a dileu briwsion nad ydych eu heisiau.
Os ydych wedi newid eich gosodiadau fel na fydd y cyfrifiadur yn derbyn briwsion, mae´n bosib y gwelwch yr un arolwg bob tro y byddwch yn ymweld â safle neu adrannau penodol o safle. Os nad ydych yn dymuno i hyn ddigwydd efallai y dylech ystyried troi´r briwsion ymlaen unwaith eto.
Beth fyddwch chi´n ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch ac ansawdd?
Bydd Virtual Surveys yn defnyddio mesurau diogelwch addas yn ein cyfleusterau materol er mwyn diogelu rhag colled, camddefnydd neu gyfnewidiad gwybodaeth.
Mae Virtual Surveys wedi ymrwymo i gwrdd â gofynion y cyfreithiau a´r codau canlynol:
- Deddf Diogelu Data 1998
- Cod Ymddygiad Cymdeithas Ymchwilio´r Farchnad (MRS)
- Cod Rhyngwladol Marchnata ac Ymarfer Ymchwil Gymdeithasol yr ICC/ESOMAR (Y Gymdeithas Ewropeaidd ar gyfer Barn ac Ymchwil Marchnata)
Nid yw Virtual Surveys yn gwneud sylwadau na gwarantau o unrhyw fath am y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon. Nid yw Virtual Surveys yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirdeb na chyflawnrwydd y wybodaeth a gynhwysir ar y wefan hon nac am unrhyw hawliadau na cholledion o unrhyw fath sy´n codi´n uniongyrchol ynteu´n anuniongyrchol o ddefnyddio, neu ddibynnu, ar wybodaeth o´r fath. Dylech nodi hefyd y bydd unrhyw wefannau trydydd parti y gallech gyrchu atynt o´r fan hon allan o reolaeth Virtual Surveys ac nid ydym yn gyfrifol am arferion preifatrwydd na chynnwys y gwefannau hynny.
Fyddwch chi´n trosglwyddo data´n rhyngwladol?
O gofio mai amgylchedd byd-eang yw´r Rhyngrwyd, mae defnyddio´r Rhyngrwyd i gasglu a phrosesu data personol yn golygu ei bod yn angenrheidiol i ddata gael ei drosglwyddo mewn modd sy´n fyd-eang. Felly, wrth bori drwy´r wefan hon a chysylltu â ni mewn dull electronig yn ein harchwiliadau, byddwch yn cydnabod ac yn cytuno â´r ffaith y byddwn yn prosesu data personol yn y modd hwn.
Polisi Rhyngrwyd ac E-bost y Cwmni
Yn ychwanegol i´r Polisi Preifatrwydd, bydd Virtual Surveys yn gweithredu´r Polisi Rhyngrwyd ac E-bost canlynol:
- Dim ond ar gyfer dibenion busnes y dylid defnyddio negeseuon e-bost ac offer cysylltiadau Rhyngrwyd y cwmni. At ddibenion personol, rhaid defnyddio cyfrifon personol.
- Rhaid i ddefnydd o´r rhyngrwyd ac e-bost gydymffurfio â deddfwriaeth genedlaethol a rhyngwladol.
- Rhaid i bob unigolyn sicrhau na fydd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a allai roi enw drwg i´r cwmni; ni ddylai´r gweithgareddau fod yn gyfyngedig i hyn yn unig, ond dyma rai enghreifftiau: camddefnydd personol neu gorfforedig, difenwad, ymddygiad gwrth-gystadleuol, a thwyll.
- Ni all y cwmni gymryd cyfrifoldeb dros ddefnydd y Rhyngrwyd ac E-bost gan unigolion sy´n disgyn y tu allan i´r canllawiau a nodwyd yn y polisi hwn.
- Bydd pob gweithiwr a chontractwr yn cyflwyno i´r cwmni gofnod diweddar o´u mesurau diogelwch yn ymwneud â´r Rhyngrwyd ac E-bost, gan restru, er enghraifft, eu meddalwedd diogelu rhag firysau, eu proses ddiweddaru a'u gosodiadau.
- 6. Er mwyn monitro cydymffurfiad â´r polisi hwn efallai bydd y cwmni yn monitro negeseuon e-bost sy´n dod i mewn, y negeseuon e-bost a anfonir a´r defnydd a wneir o´r Rhyngrwyd.
Unrhyw gwestiynau eraill?
Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch am y Datganiad Preifatrwydd hwn gweler y manylion cyswllt isod:
- Phone
- +44 (0)161 242 1100
- Fax
- +44 (0)161 242 1111
- Post
- Andy Smith
Virtual Surveys Limited
Faulkner House
Faulkner Street
Manchester M1 4DY
UK

